Hergé

Ffugenw cartwnydd Belgiadd oedd Hergé, ei enw llawn oedd Georges Prosper Remi (22 Mai 19073 Mawrth 1983). Daw ei ffugenw o ynganiad Ffrangeg o flaen lythrennau ei gyfenw a'i enw cyntaf, RG. Mae Hergé'n adnabyddus yn bennaf fel creawdr a darlunydd y cyfres cartŵn stribed ''Anturiaethau Tintin'', ysgrifennodd a darluniodd y gyfres o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1983, gan adael ei 24ydd llyfr yn anorffenedig. Mae ei waith yn dal i fod yn ddylanwad cryf ar gomigion, yn arbennig yn Ewrop. Sefydlwyd yn Neuadd Enwogion Llyfrau Comig yn 2003.

Mae priodweddau nodweddiadol straeon ''Tintin'' yn cynnwys eu dyneiddiaeth lliwgar, teimlad realistig a gynhyrchwyd drwy ymchwil manwl ac eang, a dull darlunio ''ligne claire'' Hergé. Mae darllenwyr hŷn yn mwynhau'r nifer o gyfeiriadau dychanol tuag at hanes a gwleidyddiaeth yr 20g sydd i'w cael yn y gwaith. Ysbrydolwyd ''Le Lotus bleu'', er enghraifft, gan y digwyddiad Mukden a arweiniodd at ryfel Chino-Japaneaidd 1934. Gellir darllen ''Le Sceptre d'Ottokar'' yn erbyn cefndir Anschluss Hitler; tra bod albymau mwy diweddar megis ''L'Affaire Tournesol'' yn disgrifio'r Rhyfel Oer. Mae Hergé wedi dod yn un o'r Belgiaid enwocaf yn fyd-eang, mae ''Tintin'' yn dal i fwynhau llwyddiant rhyngwladol, gyda dau lyfr yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg ym mis Hydref 2008. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Hergé, 1907-1983.' Mireinio'r Canlyniadau